Rhif y ddeiseb: P-05-1002 Teitl y ddeiseb: Dylid rhoi seibiant treth stamp o ran pob tŷ sy'n cael ei brynu yng Nghymru Geiriad y ddeiseb: Mae’n annheg nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel gweddill y Deyrnas Unedig o ran y seibiant treth stamp a gyhoeddwyd gan y Canghellor ar 8 Gorffennaf. Ar hyn o bryd mae’r seibiant yn gymwys i brynwyr am y tro cyntaf neu i bobl sy’n symud i fyny’r ysgol eiddo yn unig yng Nghymru. Byddai o fwy o fudd i’r economi pe bai’r seibiant hwn yn gymwys i landlordiaid posibl, neu i deuluoedd sy’n awyddus i brynu cartref gwyliau, neu achosion eraill. Yn Lloegr gellir gwneud arbediad o £15,000 ond yng Nghymru yr arbediad mwyaf y gellir ei wneud yw £2,450. Pam ydyn ni yn gymydog tlawd bob amser!!! |
Ym mis Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) ei datganoli i Gymru. Disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp â’r Dreth Trafodiadau Tir (LTT) gan Lywodraeth Cymru a hi sy’n gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru.
Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymwys ar gyfer prynu eiddo yng Nghymru ac mae’n cynnwys cyfraddau a bandiau treth gwahanol i Dreth Dir y Dreth Stamp a delir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfraddau a bandiau ei Threth Trafodiadau Tir ar gyfer 2020-21 yn ei chyllideb ddiweddaraf. Ym mis Chwefror 2020, cyn COVID, rhagwelwyd y byddai elfen breswyl y Dreth Trafodiadau Tir yn codi £179 miliwn yn 2020-21. Roedd y gyllideb yn nodi'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer prynu eiddo preswyl fel y dangosir isod.
Tabl 1. Cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar gyfer 2020-21
Trothwy |
Cyfradd y Dreth Trafodiadau Tir |
£0 - £180,000 |
0 y cant |
£180,001 - £250,000 |
3.5 y cant |
£250,001 - £400,000 |
5 y cant |
£400,001 - £750,000 |
7.5 y cant |
£750,001 - £1.5m |
10 y cant |
Dros £1.5m |
12 y cant |
Newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp y DU
Ar 8 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Rishi Sunak, Canghellor y DU yn ei Ddatganiad Haf y byddai trafodion eiddo preswyl hyd at £500,000 yn cael eu heithrio o Dreth Dir y Dreth Stamp y DU yn Lloegr a Gogledd Iwerddon tan 31 Mawrth 2021. Cyn hyn, roedd yr eithriad hwn yn berthnasol i drafodiadau eiddo hyd at £125,000 yn unig a byddai'n arbed cymaint â £15,000 i brynwyr pe baent yn prynu eiddo am £500,000 neu fwy.
Mae landlordiaid a phrynwyr ail gartref hefyd yn gymwys i gael y toriad treth ond bydd yn rhaid iddynt dalu'r 3 y cant ychwanegol o'r dreth stamp a godwyd arnynt o dan y rheolau blaenorol.
Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, cyhoeddodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Llywodraeth Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn codi trothwy eithrio’r Dreth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000 ar gyfer trafodion eiddo preswyl yng Nghymru tan 31 Mawrth 2021.
Mae'r tabl yn dangos y cyfraddau treth dros dro newydd o ganlyniad i'r newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
Tabl 2. Newidiadau i gyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar gyfer 2020-21
Trothwy |
Cyfradd y Dreth Trafodiadau Tir |
£0 - £250,000 |
0 y cant |
£250,001 - £400,000 |
5 y cant |
£40,001 - £750,000 |
7.5 y cant |
£750,001 - £1.5m |
10 y cant |
Dros £1.5m |
12 y cant |
Dywedodd y Gweinidog y bydd y newid “yn dod i rym ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd ag ailagor y farchnad dai yng Nghymru yn llawn”.
Mae'r rhagolygon tymor canolig ar gyfer y farchnad dai yn ansicr iawn, o ran prisiau tai ac o ran nifer y gwerthiannau. Bydd llawer yn dibynnu ar berfformiad yr economi ehangach, a fydd yn ei dro yn cael ei bennu gan beth sy’n digwydd o ran y pandemig a'r cyfyngiadau ar weithgarwch.
Cyn y cyhoeddiad am y newid i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir, roedd prisiau tai wedi dechrau gostwng ac roedd disgwyl iddynt ostwng ymhellach. Fodd bynnag, bydd y gostyngiad yn y Dreth Trafodiadau Tir yn arbed £2,450 i berson sy'n prynu tŷ sy'n werth £250,000, a fydd yn gwrthbwyspo cwymp posibl mewn prisiau ac yn cynyddu'r galw.
Dywedodd y Gweinidog y bydd "y trothwy newydd yn golygu na thelir unrhyw dreth ar oddeutu 80 y cant o drafodion yng Nghymru lle mae'r prif gyfraddau preswyl yn gymwys”.
Prynu ar gyfradd uwch
Yn wahanol i Dreth Dir y Dreth Stamp, ni fydd y newid i drothwy eithrio’r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru yn gymwys i brynu eiddo ychwanegol, fel prynu i osod neu brynu ail gartrefi, ac mae’r trafodiadau hynny’n gorfod talu treth ychwanegol, sef 3 y cant ar ben y gyfradd bresennol ar gyfer eu gwerth a ddangosir yn Nhabl 1.
Fe wnaeth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, nodi y bydd y newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir yn helpu pobl sydd eisiau prynu eu cartref cyntaf neu'r rhai sy'n ceisio dringo’r ysgol eiddo. Felly bydd yn cynnig mwy o gymorth wedi'i dargedu i'r rhai y gallai’r heriau economaidd sy'n deillio o'r pandemig effeithio arnynt.
Hefyd dywedodd y Gweinidog:
Drwy bennu'r cyfraddau hyn ar gyfer Cymru, rwyf hefyd yn gallu cadarnhau y bydd £30m ar gael i gefnogi'r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, a thrwy hynny greu swyddi y mae gwir angen amdanynt.
Senarios treth
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir sy'n nodi’r dreth sy'n ddyledus yn ôl band treth preswyl ar drafodion prydlesi preswyl a phrynu eiddo. Drwy gymryd dwy ran o dair o gyfanswm treth 2019-20 sy'n ddyledus ar brynu eiddo preswyl dros £180,000, ac eithrio'r pryniannau sy'n cael eu codi ar y gyfradd uwch, rydym wedi amcangyfrif bod y dreth sy'n ymwneud â'r band rhwng £180,000 a £250,000 dros 8 mis yn debygol o fod oddeutu £20 miliwn. Gwnaed y cyfrifiad syml hwn gan fod yr amrywiad treth dros dro ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir rhwng mis Awst 2020 a mis Mawrth 2021 yn rhychwantu wyth mis.
Mae'r tabl yn dangos dadansoddiad sensitifrwydd sy'n rhoi rhai ystodau ar gyfer y golled bosibl o ran refeniw y Dreth Trafodiadau Tir sy'n deillio o'r amrywiad dros dro i'r prif gyfraddau treth ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl. Mae'r tabl yn rhagweld y golled o ran refeniw yn seiliedig ar ddata Treth Trafodiadau Tir 2019-20 a hefyd yn cyfrif am amrywiad o ran trafodiadau eiddo preswyl o ganlyniad i'r newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir.
Tabl 3. Senarios o ran colledion refeniw y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer prif bryniannau preswyl
Canran y newid mewn trafodiadau eiddo preswyl â gwerth dros £180,000 |
-10 y cant |
0 y cant |
10 y cant |
20 y cant |
Cyfanswm y golled treth (£m) |
18.5 |
20.5 |
22.6 |
24.6 |
Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r Gwasanaeth Ymchwil gan ddefnyddio data Awdurdod Cyllid Cymru
Fel y dangosir yn y tabl uchod, er bod y rhagolygon yn ansicr, gan ganiatáu ar gyfer rhychwant mewn trafodiadau eiddo o'r gwerth hwn rhwng -10 y cant a +20 y cant, gallai swm yr incwm a ildiwyd gan y newid hwn i gyfraddau treth fod rywle rhwng £18 miliwn a £25 miliwn.
Mae tabl 4 yn cynnwys refeniw treth a gollir pe bai’r cynnydd yn nhrothwy eithrio’r dreth yn gymwys i brif bryniannau eiddo preswyl a phryniannau cyfradd uwch ar gyfer eiddo fel ail gartrefi. Fel y gwelir, gallai Llywodraeth Cymru fynd i golled ychwanegol o £6 miliwn i £8 miliwn o ran refeniw y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer pryniannau cyfradd uwch yn seiliedig ar ddata o'r llynedd. Gallai gostyngiad o 10 y cant mewn trafodiadau eiddo arwain at golled gyffredinol o oddeutu £24 miliwn, a gallai cynnydd o 20 y cant arwain at golled o oddeutu £32 miliwn.
Tabl 4. Senarios o ran colledion refeniw y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer prif bryniannau preswyl a phryniannau cyfradd uwch
Canran y newid mewn trafodiadau eiddo preswyl â gwerth dros £180,000 |
-10 y cant |
0 y cant |
10 y cant |
20 y cant |
Cyfanswm y golled treth (£m) |
24.3 |
27 |
29.7 |
32.4 |
Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r Gwasanaeth Ymchwil gan ddefnyddio data Awdurdod Cyllid Cymru
Nid yw'r tablau hyn yn cyfrif am y posibilrwydd o naill ai llai o alw oherwydd y pandemig a dirwasgiad neu’r posibilrwydd o unrhyw gynnydd oherwydd galw cudd neu drafodiadau oedd wedi'u gohirio yn cael eu cwblhau.
Er mwyn newid cyfraddau a throthwyon y Dreth Trafodiadau Tir, cafodd Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 eu gwneud gan Lywodraeth Cymru ar 22 Gorffennaf 2020 a'u gosod gerbron y Senedd ar 24 Gorffennaf 2020.
Rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau drwy weithdrefn gadarnhaol o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.
Ar 22 Gorffennaf 2020, fe wnaeth Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ysgrifennu at Lywydd y Senedd yn nodi'r newidiadau i drothwy y Dreth Trafodiadau Tir a'i bwriad i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Rheoliadau ar 29 Medi 2020.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |